Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
3 Ebrill 2017
SL(5)085 – Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy’n rhestru’r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Traeth Glan Don Beach at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
Fe’u gwnaed ar: 20 Mawrth 2017
Fe'u gosodwyd ar: 23 Mawrth 2017
Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2017
SL(5)086 – Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn (“Rheoliadau 2017”) yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006. Mae Rheoliadau 2017 yn cyflwyno’r gofyniad bod yn rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru weithredu pwyllgorau cynllunio gyda chworwm o 50% o’r aelodau, wedi’u talfyrru i’r rhif cyfan agosaf, er mwyn gwneud penderfyniadau. Mae Rheoliadau 2017 hefyd yn gwahardd defnyddio aelodau sy’n dirprwyo yn absenoldeb aelodau a benodwyd.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989
Fe’u gwnaed ar: 21 Mawrth 2017
Fe'u gosodwyd ar: 24 Mawrth 2017
Yn dod i rym ar: 5 Mai 2017